Annwyl Aelodau,

Ymhellach i’n Tystiolaeth Ysgrifenedig a gyflwynwyd ym mis Hydref 2023, a chyn inni gynnal ein sesiwn gyda chi ar 28 Chwefror, amgaeaf dystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol.

Yn ein cyflwyniad cyntaf, cynhwyswyd rhai enghreifftiau o faterion a oedd wedi codi o ganlyniad i’r ffaith bod y DU wedi gadael yr UE. Ers y cyflwyniad hwnnw, mae materion eraill wedi dod i’n rhan a allai gynnig cyd-destun pellach er mwyn dangos y costau a’r effeithiau gweithredol parhaus ar ein sector.

 

1.    Cydgynyrchiadau

Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda Brno National Theatre (Y Weriniaeth Tsiec) i gydgynhyrchu cynhyrchiad newydd o’r opera Dalibor gan Smetana, a agorodd yn Brno ar 2 Chwefror. Ar ôl i’r cynhyrchiad ddod i ben yn Brno, mae’r contract cydgynhyrchu yn golygu y bydd yn rhaid inni wneud cynlluniau i gludo’r cynhyrchiad (y set a’r gwisgoedd ac ati) i’r DU. Cyn Brexit, byddai’r dasg hon wedi bod yn gymharol syml; ond yn awr, rhaid inni weithio yn ôl rheolau mewnforio. Mae hyn yn golygu gwaith gweinyddol ychwanegol a chostau ychwanegol i ni.

Ar gyfartaledd, mae’r adran yn gorfod treulio o leiaf 40 o oriau ychwanegol fesul llwyth a thrwydded ar gyfer mewnforion dros dro i’r UE. O ran costau, rhaid prynu gwarantau bond a thrwyddedau sydd, fel arfer, oddeutu £750 fesul dogfen. Ond yn waeth o lawer na hyn, nid ydym bellach yn bartner deniadol i dai opera Ewrop gan fod yn rhaid trosglwyddo’r costau hyn i’r cleient.

Dyma enghraifft o’r modd yr arferem weithio cyn Brexit: Rhwng 2018 a 2020, fe wnaethom gydgynhyrchu tair opera gan Verdi gyda Theater Bonn (Yr Almaen). Yn sgil y bartneriaeth hon, bu modd inni greu tri chynhyrchiad newydd, ond bu modd rhannu’r gost rhyngom ni a’n partner cynhyrchu. Gan fod y cynyrchiadau’n agor ar wahanol adegau ym mhob tŷ opera dros y tair blynedd, bu’n rhaid cludo’r setiau yn ôl a blaen yn rheolaidd ar draws ffiniau, ac ni chafwyd unrhyw broblemau o ran trwyddedau na ffioedd mewnforio/allforio. Ar ôl Brexit, ni fyddai’n ymarferol inni lunio trefniant o’r fath gyda thŷ opera yn Ewrop oherwydd y costau ychwanegol a’r gwaith gweinyddol ychwanegol sydd bellach yn ein hwynebu.

Yn hanesyddol, mae cydgynyrchiadau wedi bod yn ffordd greadigol a chost-effeithiol o gynhyrchu operâu newydd a chreu cysylltiadau â thai opera eraill. Er ein bod yn cydgynhyrchu’n llwyddiannus gyda thai opera yn y DU hefyd, mae cyfyngiadau’n perthyn i’r arfer hwn gan fod llai o gwmnïau i’w cael yn y DU. Rydym yn wynebu mwy a mwy o heriau wrth gydgynhyrchu gyda thai opera yn Ewrop, ac mae’r rhwystrau o ran cydweithio rhwydd a rhad yn golygu bod ein partneriaid Ewropeaidd yn cydnabod ei bod yn anos iddynt weithio gyda thai opera o’r DU.

 

2.    Mewnforio offer

Ar hyn o bryd, rydym yn llwyfannu Death in Venice gan Britten, sef cynhyrchiad newydd a gynhyrchwyd gan weithdy adeiladu setiau WNO, sef Cardiff Theatrical Services (CTS). Rydym yn cydweithio â NoFit State ar y cynhyrchiad hwn. Mae’r cwmni hwnnw’n darparu perfformwyr awyr; lleolir y perfformwyr hyn yn yr UE. Ar gyfer eu perfformiadau, mae’r perfformwyr yn defnyddio offer arbenigol, yn cynnwys harneisiau. Oherwydd eu gwaith ar gyfandir Ewrop cyn ymuno â ni, bu’n rhaid inni dalu ffioedd tollau i ryddhau eu hoffer arbenigol o’r Almaen i’r DU. Arweiniodd hyn at 2 awr o waith papur ac amser gweinyddol ychwanegol, a hefyd codwyd ffioedd tollau a thrafod ychwanegol a oedd yn cyfateb i oddeutu 30% o’r gwerth cyffredinol.

Cyn Brexit, ni fyddai’r gwaith o gludo offer y perfformwyr o’r UE i’r DU wedi arwain at waith papur na ffioedd o gwbl.

 

3.    Cleientiaid Masnachol

Mae Cardiff Theatrical Services (CTS) yn enwog drwy’r byd am adeiladu setiau. WNO sy’n berchen yn llwyr ar y cwmni hwn. Yn ddiweddar, rydym wedi sylwi bod cleientiaid o’r UE yn gyndyn o roi contractau inni oherwydd ofnau’n ymwneud â thollau mewnforio. Mae cleient diweddar y buom yn gweithio gydag ef i ddarparu setiau ar gyfer digwyddiad mawr yn Arena O2 Llundain wedi penderfynu chwilio’n fwy lleol am gostau ar gyfer yr un cynhyrchiad, felly go brin y cawn gontract ar gyfer cyflenwi setiau cyfwerth â’r cynhyrchiad yn yr UE. Yr incwm cyffredinol yn Llundain oedd £500k; mae’r swm hwn yr un faint â’r swm cyfatebol yn yr Iseldiroedd ar gyfer yr un cynhyrchiad a fydd, o bosibl, yn cael ei roi i adeiladwr setiau o Ewrop yn awr.

Yn gyffredinol, ymddengys yn awr ei bod yn haws ac yn symlach inni fasnachu â’r Unol Daleithiau, gan fod y farchnad honno yn fwy cyfarwydd â masnachu â’r DU yn hytrach na’r rhan fwyaf o wladwriaethau Ewrop.

 

4.    Rheolau fisa

Ar hyn o bryd, caiff cerddorion eu rhestru fel gweithwyr crefftus ar Restr y DU o Alwedigaethau lle ceir Prinder (Rhif 3415). Yn ddiweddar, rydym wedi recriwtio canwr sielo o’r Eidal i ymuno â’n Cerddorfa. Yn ogystal â gorfod talu ffioedd fisa i’w recriwtio trwy gyfrwng fisa Gweithiwr Crefftus, rhaid inni hefyd dalu gordal blynyddol i’r GIG, sydd wedi cynyddu 66% i £1,035 (6 Chwefror 2024) – swm sylweddol iawn.

Dan reolau fisa newydd a ddaw i rym ar 4 Ebrill 2024 ac a fydd yn cynyddu’r trothwy isafswm cyflog ar gyfer Gweithwyr Crefftus o £26,200 o £38,700 y flwyddyn, ni fyddem wedi gallu recriwtio’r cerddor dan sylw gan fod y swm hwn yn uwch na throthwy cyflog ein Cwmni ar gyfer y rôl hon. Yn wir, byddai cyflogau pob un o’n cerddorion yn is na’r trothwy hwn, ac eithrio Prif Chwaraewyr Adrannau.

Yn ôl cynigion a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ym mis Rhagfyr 2023, bydd y Rhestr o Alwedigaethau lle ceir Prinder yn cael ei disodli ym mis Ebrill 2024 gan Restr Cyflogau Mewnfudo newydd mewn ymdrech i leihau mudo net. Mae hyn yn destun pryder inni, oherwydd os caiff cerddorion eu tynnu oddi ar y rhestr o alwedigaethau lle ceir prinder, bydd hynny’n cyfyngu mwy fyth ar ein gallu i recriwtio’n rhyngwladol ac fe allai gyfyngu ar ansawdd ensembles WNO.

Cyn Brexit, ni fyddem wedi gormod mynd trwy’r broses Fisa o gwbl ar gyfer recriwtio artistiaid o’r UE. Mae pwysau ychwanegol o’r fath yn gyfuniad o Brexit a newidiadau yn neddfwriaeth bresennol y DU.

 

 

Opera Cenedlaethol Cymru